Tuesday 13 May 2014

Magi a'r Lygoden Fawr.


Ti fydd rhaid 'i deud hi. Na. O. Ym. Magi. Efo'r lygoden fawr. Oedd. Wel weda'i wrtho ti be' oedd hwnnw. Ie. Wel. Ie. Wel. Magi oedd honno gwraig Elwyn wel' di. Ac oedd 'di bod yn chwys diferol. Yn cae gwair neu rwbeth. A. A mi ddo'th i'r ty wedi blino. A mi feddyliodd am fynd i'r bwtri odden ni'n cadw ym. Llaeth enwyn. Ar ol g'neud. G'neud ym. G'neud menyn wsti. Yn y bwtri 'ma. A Duwcs n'de. Ag w' ti'n gweld ma'. Ma' ym. Llaeth enwyn yn mynd yn. Yn. Yn mynd. Suddo lawr. Ma' o'n o'n ar y top 'sti. Ma' rhaid ti. I g'mysgu o cyn 'i. Cyn i yfed o i ti. I ti. Ga'l y. Y tew. A'r y. Y tenne'. Wel' di o'r llaeth enwyn 'ma. A mi a'th os gwel' di'n dda. A Duw. Mi fydd hi'n. Yfed. Lashed 'nde. Ag a'th hi'n nol i 'iste. Odd 'i'n gweld o'n. Mor dda. Mi ath hi'n nol wedyn. Mi ath hi'n nol. Y. Be' ti'n galw o. Second helping. A be' ddari 'blaw. 'Neud. Feddwl bod ganddi. Rhyw. Gadjeten. Yn troi'r. Beth. A Duwcs pan ddari. O'dd hi'n clywed rwbeth. Yn y gwaelod. A mi nath hi edrych a be nath hi ond codi. Efo'r. Llwy fawr ma neu be bynnag o'dd ganddi. A be o'dd hi. Llygoden fawr. Wel odd 'i'n. Odd 'i'n sal ar ol cofia. Oedd y ll'goden fawr ma' rhaid bod 'ne di fod drws 'n gored. A'th i mewn i'r bwtri a 'di boddi yn y llaeth enwyn 'ma. Ond ti fydd rhaid i deud hi cofia.  

No comments:

Post a Comment